Diogelu eich eiddo 24/7
Yn K9 Protection rydym yn cynnig cyfres gyflawn o wasanaethau i ddiogelu eiddo gwag. Rydym yn deall nad yw’n ymarferol bob amser i osod system larwm barhaol ar eiddo gwag – yn y sefyllfa hon mae’n syniad ystyried ein systemau larwm o bell dros dro a ddyluniwyd yn benodol i amddiffyn eiddo ac iardiau gwag. Rhowch alwad i ni a siaradwch â'n tîm er mwyn teilwra system larwm ddi-wifr ddibynadwy i ateb gofynion eich eiddo gwag chi, gan gynnwys cyfuniad o unrhyw rai o'r synwyryddion canlynol:
Synwyryddion symudiad
Synwyryddion cyswllt â drws
Synwyryddion gwyro (Perffaith ar gyfer ffenestri Velux a drysau garej sy’n codi dros eich pen)
Synwyryddion Dirgryniad
Pelydrau "Llenni"
Synwyryddion symudiad wedi'u gwirio gan fideo
Synwyryddion mwg, gwres a thân
Synwyryddion gollyngiadau a llifogydd